Dynes yn edrych allan tuag y mor

Mae Llinell Gymorth Trin Gamblo GIG Cymru yn cynnig cymorth cyfrinachol, diaros, a hynny 24 awr y diwrnod i unrhyw un yng Nghymru sy'n pryderu am gamblo - p’un a yw hynny’n ymwneud â’ch arferion gamblo chi eich hun neu rai rhywun arall.

08082 819 265

neu ebostio

gambling@helpline.wales

Dynes yn gwenu tra'n dal ffôn symudol

Sut allwn ni helpu?

  • Cyngor ar unwaith a chefnogaeth emosiynol
  • Offer ymarferol i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, (hunan-eithrio, cyfrif banc wedi’i rewi, rhwystro meddalwedd, lleihau amlygiad at hysbysebion)
  • Cefnogaeth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan broblemau gamblo rhywun arall
  • Cyfeirio at gymorth iechyd meddwl brys
  • Cyfeiriadau cyflym at driniaeth arbenigol y GIG
Menyw yn eistedd ar ddarn o froc môr ar draeth, yn edrych allan dros y môr.

Ar gyfer pwy mae’r llinell gymorth?

Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb yng Nghymru, gan gynnwys pobl sy’n poeni am eu harferion gamblo eu hunain neu rywun arall. Mae cymorth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyn mewn crys glas yn dal ffôn wrth ei glust.

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â ni?

  • Lle diogel, cyfrinachol i siarad
  • Gwasanaeth fydd yn deall eich anghenion a’ch blaenoriaethau
  • Cyfeiriadau at wasanaethau lleol a chenedlaethol perthnasol
  • Dewisiadau neu gyfeiriad at driniaeth arbenigol lle bo angen
Menyw oedrannus yn siarad ar y ffôn y tu allan.

Pam dewis Llinell Gymorth Trin Gamblo GIG Cymru?

  • Am ddim ac yn gyfrinachol
  • Ar gael 24/7
  • Cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Gofal tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Dechrau

Nodwch eich cod post yn y blwch isod. E.e. LL11. Yna dewiswch Bwnc o'r rhestr a chliciwch y botwm Chwilio unwaith.

Chwilio am asiantaeth

Cymorth ychwanegol

Mae Gamban yn atal mynediad at filoedd o wefannau gamblo. Hawliwch eich trwydded Gamban AM DDIM:

Hawliwch yma

Mae’r Gwasanaeth Triniaeth Gamblo yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i bobl sy’n profi niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth yn darparu asesiad, cymorth therapiwtig a thriniaeth i helpu pobl i ddeall a rheoli’r effaith y gall gamblo ei chael ar eu hiechyd meddwl, eu llesiant, eu perthnasoedd a’u cyllid.

03000 859464
GamblingService@wales.nhs.uk

Llinell Gymorth CALL yw llinell gymorth iechyd meddwl Cymru.

Mae’n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/deunydd darllen am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

Gall unrhyw un sy’n poeni am ei iechyd meddwl ei hun, neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.

callhelpline.org.uk

Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel DAN 24/7, yn cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ffôn ddwyieithog ac am ddim sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth a/neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau a/neu alcohol.

Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cymorth ym maes cyffuriau ac alcohol i gael mynediad at wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.

dan247.org.uk

Cuddio